Wednesday, September 20, 2006

Noson arbrofol...

Wel cawsom ni lwyddiant efo Skype yn y pendraw (hynny yw Glyn o Ganada a finnau)ond dim diolch i fi.. Wnes i drefnu'r Skypcast ar y noson anghywir felly roedd rhaid i mi sefydlu un yn ar y pryd. Mi ddaeth neb yna, ond o'n i'n gwybod fod Glyn ar 'Skype' gan mod i wedi derbyn neges oddi wrtho fo ar fy sgrin. Ar ol ychydig derbyniais i alwad Skype gan Glyn ( dim Skypcast agored fel petai) a chawsom ni sgwrs am rhyw hanner awr yn y modd hynny ....diolch Glyn.

Dwi wedi dysgu cwpl o bethau am ddefnydio Skype ta waeth. Dim pob tro ydy'r Skypcasts i gyd yn ymddangos ar dudalen 'On Now', hyd yn oed os mae nhw yn digwydd ar y pryd, ond ar ol gwneud ymchwiliad ar y gair 'Cymraeg' mi ddoth 'Tafarn y Byd' i fyny. Mae safon y swn (ar fy rhan i) yn ardderchog, lot well 'na linell ffon nodweddiadol.

Felly os mae rhywun am awgrymu noson penodol am 'arbrawf' arall, croeso. Unrhyw noson yn ystod wythnos nesa heblaw nos iau yn iawn efo fi, hwyl, Neil

2 comments:

Rhys Wynne said...

Efallai cymeraf ran os/pan fydd band llydan gyda fi yn y tŷ. Falch i glywed cawsoch lwyddiant yn y diwedd.

Pan fyddwch wedi penderfynnu ar amser beth am gael rhywbeth ar ben y colofn dde ar y blog yn dweud yn fras Bydd y dafarn ar agor eto ar....... am.......?

Anonymous said...

dwin eisiau siarad cymraeg.help i fy?