Friday, September 01, 2006

Sut i fynd ati ...

Er mwyn cysylltu a^ Skypcasts, dilyn y camau canlynol:-

1.Lawrlwythwch Skype.

(Mae Skype yn rhad ac am ddim. Mae'n rhaglen sy'n galluogi pobl i sgwrsio dros y we fel tasen nhw ar y ffon. Yn ogystal a hynny, mae'n eu galluogi nhw greu 'Skypecasts', sef sesiynau sgwrs rhwng cymaint a chant o bobl yn ol eu 'bwmff')

2.Cofrestrwch a^ Skype ac yna 'arwyddo-mewn'.

3.Cysylltwch eich meicroffon a ffoniau-clust.

4.Ewch i 'skypecasts home'

O fan'na dychi'n gallu ymuno a^ Skypecasts, neu eu creu nhw. Mae 'na flwch 'chwilio' hefyd er mwyn i chi ddod o hyd 'Skypcasts' sy wedi cael ei drefnu yn barod.

5.Mwynhewch sgwrs...gobeithio :-)

Mi wna i gyhoeddi ar y blog yma manylion o unrhyw 'Skypecasts' Cymraeg dwi'n gwybod sy'n ar y gweill. Mi fydda i'n trefnu rhai, gobeithio, ond mi alla i bostio'r manylion am unrhywun dychi'n trefnu hefyd, does dim ond rhaid i chi anfon 'comment' at y blog fan'ma.

No comments: